Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Hydref 2020
Amser:
09.00 -
12.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6445
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Sarah Stone, Samariaid Cymru Kate Heneghan, Papyrus Yr Athro Ann John, Prifysgol Abertawe Dr Antonis Kousoulis, Sefydliad Iechyd Meddwl |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Papyrus a Samariaid Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Papyrus a Samariaid Cymru.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Ann John a Dr Antonis Kousoulis.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Gofal Iechyd Cilyddol a Thrawsffiniol (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Cod Ymarfer ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i roi ateb ysgrifenedig i’r Gweinidog.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
6 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol a'r dull gweithredu ar gyfer yr adroddiad
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan y Gweinidog a thrafododd ei gasgliadau ar gyfer yr adroddiad drafft. Gan nad oes cyfarfod Pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf, cytunodd yr aelodau i gymeradwyo’r adroddiad terfynol drwy e-bost.
8 Blaenraglen waith
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer yr hanner tymor nesaf, hyd at wyliau’r Nadolig. Cytunodd y Pwyllgor y byddai ei waith yn parhau i ganolbwyntio ar effaith Covid-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a pharhau i oedi pob busnes arall nad yw’n gysylltiedig â Covid-19. Bydd hyn yn cael ei adolygu ar ddechrau tymor y gwanwyn.